Foel ydy prosiect cerddoriaeth electronig Jack Smith-Keegin, sy'n byw yng Ngogledd Cymru. Yn siaradwr Cymraeg, mae gynno fo berthynas hir efo'r dirwedd leol - mynyddoedd, glannau, pob math o dywydd - perthynas mae o'n ei rhannu efo'i wraig a'i ddau o blant erbyn hyn.
Mi ddechreuodd Foel wneud cerddoriaeth yn un ar bymtheg oed, ac mi dreuliodd ddau ddegawd yn ymarfer ar ei ben ei hun ac yn adeiladu offer heb ryddhau dim. Sunbane, sylfaenydd WEPN, Rhwydwaith Cynhyrchwyr Electronig Cymru, wnaeth licio'i fiwsig o a'i gefnogi o i adael iddo fagu plu a mynd i'r gwyllt: mi ddaeth ei sengl gyntaf, Ogof / Melltydd, allan ar WEPN yn 2025, a'i albwm cyntaf, Gwasgaru, ar Machine Records ym Medi 2026.
Mae o'n defnyddio peiriannau mae o wedi adeiladu i archwilio hap wedi'i siapio - mae'r darnau'n lwpio ond byth yr un fath ddwywaith, ac mae bwâu hir, graddol yn mynd â phob trac i rywle hollol newydd.








