Foel ydy prosiect cerddoriaeth electronig Jack Smith-Keegin, sy'n byw yng Ngogledd Cymru. Yn siaradwr Cymraeg, mae gynno fo berthynas hir efo'r dirwedd leol - mynyddoedd, glannau, pob math o dywydd - perthynas mae o'n ei rhannu efo'i wraig a'i ddau o blant erbyn hyn.
Mi ddechreuodd Foel wneud cerddoriaeth yn un ar bymtheg oed. Mae'r rhyddhadau cyntaf yn dod ar ôl dau ddegawd o ymarfer ar ei ben ei hun ac adeiladu offer. Mi ddaeth ei sengl gyntaf, Ogof Melltydd, allan ar WEPN yn 2025, ac mae ei albwm cyntaf, Gwasgaru, yn dilyn ar Machine Records.
Mae o'n defnyddio peiriannau mae o wedi adeiladu i archwilio hap wedi'i siapio - mae'r darnau'n lwpio ond byth yr un fath ddwywaith, ac mae bwâu hir, graddol yn mynd â phob trac i rywle hollol newydd.